Ffotograffydd Babis | newborn photographer North Wales
Dwi’n cynnig ffotograffiaeth naturial i fabis bitw bach a’u teuluoedd ar hyd Gogledd Cymru a Sir Gaer. Mae sesiynau babi yn cael eu cynnal yn eich cartref chi’ch hunain, sy’n golygu fod digon o amser i fwydo, newid clytiau, a chael llond trol o cydls er mwyn cadw’ch babi bach yn hapus a bodlon. Mae sesiwn babi yn cymryd rhwng 2 a 3 awr, a dydw i ddim yn defnyddio props nag yn ‘posio’ babis. Y peth mwyaf pwysig i mi ydi ffocysu ar eich babi fel aelod o’r teulu cyfan, ac ar fanylion bitw bach eich babi newydd.
er mwyn bwcio’ch sesiwn babi…
Fel arfer, mae ‘nghleientiaid yn bwcio’u sesiwn babi ar ôl y sgan 20 wythnos. Mi wnawn ni ddefnyddio’ch ‘due date’ fel y dyddiad sy’n mynd mewn i ‘nyddiadur, ac unwaith i’r babi gael ei geni, fe allen ni bennu’r dyddiad terfynol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gofynnwch! Cysylltwch drwy’r ffurflen isod am fwy o wybodaeth am brisiau neu ddyddiadau rhydd. Fedrai’m aros i glywed gennych chi!