
FFotograffydd Teulu | family photographer North Wales
Mae na lond trol o ffotograffwyr yng Nghymru. Llond. Trol. Felly, pam ddylsa chi bwcio fi? Wel, mae fy sesiynau teulu dipyn bach yn wahanol i’r arfer. Mae genai lwyth o gemau, triciau, caneuon a gwynebau gwirion i gael gwynebau hapus naturiol gan eich teulu, ac mi wnai byth ofyn i chi sbïo ar y camera. Dwi’n gaddo. Mae sesiwn teulu yn ffordd lyfli o dreulio amser efo’ch gilydd tra ‘mod i’n dal yr emosiwn a’r perthynas rhyngddoch chi gyd. Mae’n gyfle hefyd i blant fod yn blant - sblashio yn y tonnau, chwarae gemau gyda’u teulu, casglu cerrig bach, a teimlo’r tywod rhwng bodiau’u traed.
er mwyn bwcio’ch sesiwn teulu…
Mae sesiynau teulu yn andros o boblogaidd, yn enwedig yn ystod y gwyliau ysgol, felly cysylltwch o leiaf cwpl o fisoedd o flaen llaw! Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gofynnwch! Cysylltwch drwy’r ffurflen isod am fwy o wybodaeth am brisiau neu ddyddiadau rhydd. Fedrai’m aros i glywed gennych chi!
